Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22 Hydref 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5853


236(v5)

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.27

 

</AI2>

<AI3>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 14.51

NNDM7169 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7170 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn heddiw, 22 Hydref 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (TYNNWYD YN ÔL)

 

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach-Cymru Iach

Dechreuodd yr eitem am 14.52

 

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiogelwch Adeiladau

Dechreuodd yr eitem am 15.33

 

</AI6>

<AI7>

6       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025

Dechreuodd yr eitem am 16.08

 

</AI7>

<AI8>

7       Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Dechreuodd yr eitem am 16.59

NDM7163 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI8>

<AI9>

8       Rheoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Dechreuodd yr eitem am 17.01

NDM7164 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 - Gohiriwyd tan 6 Tachwedd 2019

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl: Brexit

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

NNDM7170

Rebecca Evans (Gower)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.

2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.

Bil y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.

3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol eraill.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref 2019.

5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

5

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

1

43

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NNDM7170

 

Rebecca Evans(Gŵyr)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.

2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.

Bil y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI11>

<AI12>

11    Cyfnod pleidleisio

The item started at 18.40

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.41

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 23 Hydref 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>